info
#OPERATION l Tackling drug dealing, and associated crime and disorder is the aim of a new force-wide operation. Officers from a range of departments, including Roads Policing Unit and the Dog Section, are working with local Neighbourhood Teams to target areas where concerns have been raised by the community. Barry was the first area to get some focus from Operation Winsford earlier this month which resulted in several positive results including one man arrested for possession with intent to supply drugs, £2,500 seized under the Proceeds of Crime Act, and three uninsured cars, suspected of being used for crime, being seized. South Wales Police has a zero-tolerance approach to drug dealing and Operation Winsford is just one example of how we are tackling drug dealing in the community. We can, and regularly do, act upon the information provided to us by the public, so please keep it coming. Anyone with suspicions or information about illegal drug supply is urged to contact us. #KeepingSouthWalesSafe #CadwDeCymruYnDdiogel #YMGYRCH l Mynd i'r afael ag achosion o ddelio mewn cyffuriau a throseddau ac anhrefn cysylltiedig yw nod ymgyrch newydd yr heddlu. Mae swyddogion o amrywiaeth o adrannau, gan gynnwys Uned Plismona'r Ffyrdd a'r Adran Gŵn, yn gweithio gyda Thimau Cymdogaeth lleol i dargedu ardaloedd lle mae aelodau o'r gymuned wedi codi pryderon. Y Barri oedd yr ardal gyntaf i Ymgyrch Winsford ganolbwyntio arni yn gynharach y mis hwn a arweiniodd at sawl canlyniad cadarnhaol, gan gynnwys arestio un dyn am fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, atafaelu £2,500 o dan y Ddeddf Enillion Troseddau ac atafaelu tri char heb yswiriant yr amheuir iddynt gael eu defnyddio i droseddu. Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch at ddelio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw Ymgyrch Winsford o'r ffordd rydym yn mynd i'r afael ag achosion o ddelio mewn cyffuriau yn y gymuned. Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni. Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
Duration: 33 sPosted : Tue, 16 Apr 2024 07:43:03Views
63.1KDaily-
Likes
939Daily-
Comments
53Daily-
Shares
127Daily-
ER
1.77%Daily-
Latest